SFP – 54

Is-bwyllgorau ar Reoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2012

BBC CYMRU WALES: gwybodaeth ychwanegol

Cytunodd y tystion i ddarparu gwybodaeth bellach ar y costau cysylltiedig â’r rheoliadau, gan gynnwys: cost adleoli cynyrchiadau'r BBC i Loegr i recordio golygfeydd dramatig lle'r oedd actorion yn ysmygu; y gost yn codi o benderfyniad cynyrchiadau i beidio â lleoli yng Nghymru o ganlyniad i’r diffyg eithriad yn y ddeddfwriaeth; unrhyw fanylion pellach ar gost efelychu ysmygu gan ddefnyddio technoleg CGI.

Mewn ymateb i gais yr Is-bwyllgor am fwy o fanylion ar agweddau cost, rydym wedi nodi isod yr hyn y gobeithiwn sy’n enghreifftiau defnyddiol, gan gynnwys costau gwirioneddol a chostau a amcangyfrifwyd.

1.   Cost adleoli cynyrchiadau’r BBC i Loegr i recordio golygfeydd dramatig lle'r oedd actorion yn ysmygu

O ganlyniad i’r cwestiynau ychwanegol a dderbyniwyd a’n sesiwn tystiolaeth yn y Cynulliad, rydym wedi archwilio enghreifftiau pellach o ffilmio ar draws y ffin.

Mae ein hadolygiad wedi tynnu sylw at natur gymhleth penderfyniadau ynghylch lleoliadau ffilmio ac wedi nodi’r ffaith bod penderfyniadau yn aml yn newid rhwng y cyfnod cynllunio a’r ffilmio ei hun, weithio’n hwyr iawn yn y broses. 

Fel cynhyrchiad cyfnod, Upstairs Downstairs (cyfres 2) yw’r ddrama gan BBC Cymru Wales sydd fwyaf perthnasol i’w hystyried. Adolygwyd toriad terfynol y gyfres fesul golygfa gan nodi’r golygfeydd hynny lle'r oedd ysmygu i’w weld yn glir. Mae adolygiad llawn o waith papur y cynhyrchiad hefyd wedi canfod y ffaith bod rhai enghreifftiau ychwanegol o orfod ffilmio golygfeydd ar draws y ffin, a dylanwadwyd ar y penderfyniadau hynny gan y gwaharddiad ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus yng Nghymru. Mae hefyd wedi canfod enghreifftiau lle yr oedd golygfeydd a gynlluniwyd yn wreiddiol ar gyfer Bryste wedi cael eu newid i Gaerdydd oherwydd natur hyblyg y broses o wneud penderfyniadau ar leoliadau, costiadau a ffactorau eraill.

O’r herwydd, gallwn yn awr  ddarparu manylion diwygiedig i chi o olygfeydd Upstairs Downstairs (cyfres 2) a drosglwyddwyd ar draws y ffin oherwydd argaeledd lleoliadau addas a hefyd oherwydd y gwaharddiad ar ysmygu yng Nghymru, sef ffilmio bar yn yr Almaen gydag yfwyr a sinema gyda chynulleidfa. Ffilmiwyd y ddwy olygfa ym Mryste. Ffilmiwyd y tu allan i’r ring baffio yn Lloegr. Gan gyfeirio at ein tystiolaeth flaenorol, llwyddwyd i adleoli’r olygfa o baffio dan do i Gyfnewidfa Lo Caerdydd er gwaethaf cynlluniau cychwynnol i ffilmio ym Mryste. Hoffem dynnu sylw hefyd at y ffaith y ffilmiwyd yr olygfa o Neuadd Albert ym Mryste yn rhannol oherwydd y gwaharddiad ar ysmygu yng Nghymru, ond nid yn gyfan gwbl gan fod materion yn ymwneud â lleoliad yn ffactor o bwys sy’n cadarnhau’r cyfeiriad

uchod at natur hyblyg a chymhleth y broses o wneud penderfyniadau ynghylch lleoliadau. 

Dengys cofnodion cynhyrchu Upstairs Downstairs, yn ogystal â ffilmio yn y stiwdio ym Mhorth y Rhath, y ffilmiwyd 11 diwrnod ar leoliad ym Mryste a 35 diwrnod ar leoliad yng Nghymru a Leamington Spa. Cafodd y golygfeydd hyn lle yr oedd ysmygu yn benodol ofynnol fel y cyfeirir uchod, eu ffilmio dros bum diwrnod, gyda'r costau ffilmio ychwanegol oddeutu £18k, ynghyd â £13k ychwanegol ar gyfer amser ffilmio a gollwyd oherwydd teithio. Rydym yn amcangyfrif y gwariwyd £14.5k ar y criw Saesnig lleol yn hytrach na’r criw Cymreig a allai fod wedi cael eu cyflogi pe byddem wedi ffilmio’r golygfeydd hynny yng Nghymru.

Er gwaethaf y costau o symud y cynhyrchiad i Loegr, amcangyfrifwn ein bod wedi arbed £10k o’i gymharu â chost effeithiau arbennig a fyddai wedi eu talu am effeithiau ysmygu ar y dyddiau hyn.

2.   Y gost yn codi o gynyrchiadau’n penderfynu peidio â lleoli yng Nghymru o ganlyniad i ddiffyg eithriad yn y ddeddfwriaeth

Fel y dywedwyd yn flaenorol, dim ond un ystyriaeth yw ysmygu wrth benderfynu ble i leoli cynhyrchiad, mae’n benderfyniad cymhleth iawn sy’n ystyried ystod o ffactorau.

Caiff dramâu cyfnod trawiadol a wnaed ar gyfer BBC Four yn aml eu cynhyrchu ar gyllideb cynhyrchiad drama gweddol dynn sef oddeutu £500-600k yr awr.

Fel enghraifft, cafodd drama BBC Four Room at the Top ei ffilmio yn Lloegr a’i gosod mewn cyfnod pan oedd ysmygu’n gyffredin. Er nad ystyriwyd Cymru ar unrhyw adeg fel canolfan ar gyfer y cynhyrchiad hwn, mae’n hawdd gweld sut y gallai cynhyrchiad tebyg gael ei ddylanwadu gan y gwaharddiad ar ysmygu. Byddai cynhyrchydd a fyddai’n yn ystyried Cymru fel canolfan ar gyfer cynhyrchiad tebyg  yn ymwybodol fod pob ceiniog yn cyfrif ar gyllideb gyfyngedig a gallai hyn droi’r fantol yn erbyn Cymru.

Ein dealltwriaeth o’r fantais dreth arfaethedig yn y DU y cyfeiriwyd ati mewn tystiolaeth, yw mai ei nod yw denu a chadw cynyrchiadau yn y DU ac fel y mae wedi’i drafftio ar hyn o bryd byddai’n berthnasol i ddramâu gwerth £1m yr awr ac uwch. Bydd y lefel hon o gyllideb yn aml yn berthnasol i gynyrchiadau cyfnod ar raddfa fawr sy’n profi’n boblogaidd gyda chynulleidfaoedd.

Gallai cyfres chwe awr gostio oddeutu £6m – gwerth economaidd uniongyrchol yr hoffem ei weld yn dod i Gymru – ond gallwn ragweld y gallai deddfwriaeth bresennol gael ei hystyried yn drafferthus ar gyfer drama gyfnod. Yn ôl adroddiad annibynnol a gomisiynwyd yn ddiweddar gan y BBC, a oedd yn asesu effaith economaidd cynyrchiadau, mae pob £1 o ffi’r drwydded a werir yn werth £2 i’r economi leol. Mae manylion pellach i’w cael yma: http://www.bbc.co.uk/blogs/aboutthebbc/posts/The-BBCs-economic-impact

 

3.   Mwy o fanylion am gost efelychu ysmygu gan ddefnyddio technoleg CGI

Mae’n werth ailadrodd y byddem bob amser yn edrych ar ddewisiadau gwahanol i ysmygu go iawn cyn penderfynu defnyddio sigaréts wedi'u tanio mewn cynhyrchiad drama. Fodd bynnag, mae’n bwysig gwerthfawrogi y gall cost y dewisiadau amgen hynny hefyd fod yn ormodol.

Un dewis gwahanol a ddefnyddiwyd yn y gorffennol yw delweddau a gynhyrchir gan gyfrifiadur (CGI).Bydd costau’n amrywio’n anochel, gan ddibynnu ar raddfa’r gwaith, dylai amcangyfrifon a gasglwyd gan gwmni effeithiau gweledol mawr roi syniad o sut y mae hyn yn gweithio.

Mewn tystiolaeth, cyfeiriwyd at olygfa yn Doctor Who lle y gwelwyd Winston Churchill yn ysmygu sigâr effeithiau arbennig. Gellir defnyddio CGI i wella golygfeydd ond yn anffodus nid oes gennym gofnodion manwl ar gyfer yr olygfa hon. Fodd bynnag, caiff y cyflenwr effeithiau gweledol y buom ni’n siarad ag ef ei ddefnyddio’n rheolaidd ar gyfer drama BBC Cymru Wales, gan weithio o fewn manylebau ansawdd uchel ein gwerthoedd cynhyrchu.Amcangyfrifwyd bod cost 30 x siot 6 eiliad gyda dau aelod o’r cast yn ysmygu mewn llun agos, hyd at £55k.

I gynnig dealltwriaeth bellach o’r gost hon, pennir y swm hwn o waith animeiddio ac effeithiau gan gymhlethdod pob siot a faint o symud sydd ym mhob ffrâm – lefel o gost ychwanegol y byddai’n anodd ei chyfiawnhau i gyllidebau’r rhan fwyaf o ddramâu.Fel cynhyrchwyr dramâu, byddai’n rhaid i ni hefyd ymestyn amserlenni ôl-gynhyrchu i gynnwys gwaith GSI o unrhyw fath ac fe fyddai yna gost yn codi am hyn.

Y dewis arall y cyfeirir ato’n aml yw defnyddio sigaréts ffug fel propiau.  Fel y disgrifiwyd mewn tystiolaeth lafar, yn aml nid ydynt yn darbwyllo – yn enwedig mewn golygfa agos. I geisio gwneud iddynt ymddangos yn fwy realistig, mae angen i arbenigwr ddatgymalu, ail-lunio a rhoi’r sigarét ffug yn ôl at ei gilydd, sy’n broses ddelicet yn cymryd llawer o amser. Gallai sigaréts neu sigarau ffug gostio oddeutu £1500 - £2500 y diwrnod, gan ddibynnu ar y nifer o gynigion ffilmio a nifer y cast sy’n ysmygu.

Ar gyfer cyfres 2 Upstairs Downstairs, rydym wedi amcangyfrif y gwariwyd oddeutu £24,000 ar greu effaith weledol ysmygu.  

Ceir cost gudd ychwanegol bwysig hefyd gyda sigaréts ffug fel propiau, sef yr amser a gollir wrth ail-osod y sigaréts ffug.

Ni chadwyd cofnod gennym o’r amser a gollwyd ar gyfer cyfres 2 Upstairs Downstairs.Ond, gan weithio ar y dybiaeth y byddai’r elfennau eraill o